Numbers 17

Ffon Aaron

1Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 2“Dw i eisiau i ti gymryd ffon gan arweinydd pob un o lwythau Israel – un deg dwy ohonyn nhw i gyd – ac ysgrifennu enw'r arweinydd ar ei ffon ei hun. 3Ysgrifenna enw Aaron ar ffon llwyth Lefi. Bydd un ffon ar gyfer arweinydd pob llwyth. 4Wedyn rhaid i ti osod y ffyn o flaen Arch yr ymrwymiad yn y babell lle dw i'n cyfarfod gyda ti. 5Bydd ffon y dyn dw i'n ei ddewis yn blaguro. Dw i'n mynd i roi stop ar yr holl gwyno di-baid yma gan bobl Israel yn dy erbyn di.”

6Felly dyma Moses yn siarad gyda phobl Israel, a dyma pob un o arweinwyr y llwythau yn rhoi ei ffon iddo – un deg dwy o ffyn i gyd. Ac roedd ffon Aaron yn un ohonyn nhw. 7A dyma Moses yn gosod y ffyn o flaen yr Arglwydd tu mewn i Babell y Dystiolaeth.

8Pan aeth Moses i Babell y Dystiolaeth y diwrnod wedyn, roedd ffon Aaron (yn cynrychioli llwyth Lefi) wedi blaguro! Roedd blagur, a blodau a chnau almon yn tyfu arni! 9Felly dyma Moses yn dod a'r ffyn allan i bobl Israel edrych arnyn nhw. A dyma pob arweinydd yn cymryd y ffon oedd â'i enw e arni. 10Yna dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses, “Tyrd â ffon Aaron yn ôl i'w gosod o flaen y dystiolaeth. Bydd yn arwydd i rybuddio unrhyw un sy'n gwrthryfela. Bydd hyn yn stopio'r holl gwyno, ac yn arbed unrhyw un arall rhag marw.”

11Felly dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr Arglwydd wedi dweud wrtho. 12A dyma bobl Israel yn dweud wrth Moses, “Dŷn ni'n siŵr o farw! Mae hi ar ben arnon ni! 13Mae unrhyw un sy'n mynd yn agos at Dabernacl yr Arglwydd yn siŵr o farw! Oes rhaid i ni i gyd farw?”

Copyright information for CYM